Cyfweliad, Isabel Thomas. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Gadawodd Isabel yr ysgol yn 14oed (1942) ac aeth i weithio i waith Tunplat Mansel (roedd yn amddifad). Roedd ei chwaer yn gweithio yno a dwedodd wrth y rheolwr fod Isabel yn 16 oed. Dysgodd dasgau gwahanol: ar y shears a'r gilotîn. Twyllodd ynglŷn â’i hoedran eto i fynd i’r Wern. Disgrifia dorri’r tunplat a gweithiai’r menywod y rholer yno hefyd. Yna ai i mewn i ddŵr a byddai’n rhaid ei sythu eto. Gwisgai ddyngarîs â chlytiau. Torri ei bysedd. Lladdwyd menyw yn y gwaith alwminiwm. Roedd Isabel yn gorweithio. Gwaith shifft yn y Wern. Lladdwyd bachgen yn y Mansel hefyd - syrthiodd shîts arno. Yn y Wern roedd yr alwminiwm yn dod allan o’r baddon hallt yn boeth. Gwisgent fenig trwchus. Aelod o undeb. Dysgu rhegi. Stori am roi carthydd i’r fforman. Disgrifia’i gwaith yn y Wern. Crafu alwminiwm - hanner awr yn gweithio, hanner awr i ffwrdd yn yr ystafell dawel. Gwnaeth ei chwaer fat rhacs o got un o’r gweithwyr! Canu gyda’r piano yn y cantîn. Daeth y dynion adre o’r rhyfel a mynd â swyddi’r merched a chael gwell tâl. Dawnsfeydd a cherddoriaeth. Ni châi fynd i Fargam adeg y rhyfel oherwydd yr Americanwyr yno. Noda’r hiliaeth. Arhosodd yn y Wern 5 mlynedd - torron nhw’i chyflog a symudodd i’r cantîn. Bu yn y Mansel am ddwy flynedd. Gweithiodd yn Metal Box am dri mis c. 1952, yn gwneud topiau tuniau tomatos - swydd hawdd.
Cyfweliad gyda Isabel Thomas am ei gwaith yn Gwaith Tun Mansel - Aberafan, Gwaith Alwminiwm Wern - Aberafan, Metal Box - Neath
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment