Skip to main content

Cyfweliad, Gweithwraig George Webb. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Disgrifiadau

Yn ystod y rhyfel daeth y siaradwraig a’i theulu yn faciwîs o Lundain i dde Cymru. Gadawodd yr ysgol yn 15oed (1951) a dechrau yn Webb’s, yn gwneud esgidiau. Câi eu cyflog ei ddyblu ar gyfer y gwyliau blynyddol. Gwaith ar dasg. Amrywiaeth o dasgau - esgidiau dynion (+ y fyddin). Ei job hi oedd gleinio. Roedden nhw’n gwneud y topiau - gorffen yn ffatri Northampton. Noda mathau gwahanol o esgidiau: oxo, derby, chukka. Yn ddiweddarach (c.1964) mudodd hi a’i gŵr i Awstralia. Pan ddaeth yn ôl aeth i weithio’n Webb’s eto rhan amser. Cerddoriaeth o’r radio, canu. Roedd gwynt ofnadwy ar y glud. Roedd y rheolwr yn amseru mynd i’r toiled. Dim siarad. Yn ddiweddarach gweithient i M&S (c.1968-72) - manwl gywir. Roedd yn oer iawn yn y gaeaf. Cnoi gwm. Gallent brynu pâr o esgidiau - pris cost - bob tri mis. Glanhau ac iro’u peiriannau. Gadawodd pan oedd yn feichiog yn 1959. Pan ddychwelodd roedd estyniad ar y ffatri a gwell peiriannau. Cafodd ei diswyddo ar ôl 2 flynedd. Gweithiodd mewn ffatrïoedd (ffrwydron rhyfel / esgidiau a thorwyr gwair) yn Awstralia hefyd. Wedyn bu’n gynorthwyydd cartref.

Cyfweliad gyda' r siaradwraig am ei gwaith yn Medicine Factory - Bridgend, George Webb Shoe Factory - Bridgend

Owner:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Crëwr:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Archif Menywod Cymru 2013
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2017
Gwelediadau:
1105
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment