DOSBARTH Y GROES GOCH, CAPEL SOAR, PENBOYR 1914
DOSBARTH Y GROES GOCH, CAPEL SOAR, PENBOYR 1914
Disgrifiadau
Dyma lun ar gerdyn post o dosbarth 'Y Groes Goch' Capel Soar Penboyr dan ofal y gweinidog Mr Owen yn 1914. Beth amser yn ôl, dangosais y llun I Mrs Davies Blaenbuarthe a dyma hi yn dechrau chwerthin. Roedd hi a'm modryb Mrs May James yn hwyr yn dod i dynnu'r llun. Cawsant stŵr enfawr gan y gweinidog ac fel cosb gwnaeth iddynt eistedd yn y rhes flaen yn eu dillad bob dydd! Nhw yw'r pedwerydd a'r pumed o'r chwith yn y rhes flaen. Mae stori dda tu ôl i bob llun!
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment