Skip to main content

Rhan o sgerbwd Dracoraptor hangani

Disgrifiadau

Dyma un o'r nifer o flociau a ganfuwyd oedd yn cynnwys rhan o sgerbwd y deinosor Jwrasig bach, Dracoraptor hangani. Cafodd Dracoraptor hangani ei ddarganfod yn 2014 gan y brodyr Nick a Rob Hanigan. Theropod yw'r deinosor, tua 50cm o daldra, a chanddo gynffon hir. Roedd yn ysglyfaethwr ac yn bwyta mamaliaid bach, madfallod ac ymlusgiaid eraill. Yn y bloc yma mae esgyrn llaw a bysedd, yn ogystal â chrimog (fibula) ac asgwrn gwegil uwch (supraoccipital). Mae'r esgyrn deinosor i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar y funud, ochr yn ochr â model maint llawn a grëwyd gan y palaeo-artist Bob Nicholls, sy'n dangos sut y byddai'r deinosor wedi edrych pan oedd yn fyw, 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Owner:
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Crëwr:
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales 2019
Eitem wedi’i llwytho:
21/9/2016
Gwelediadau:
1466
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment