Skip to main content

Dowset Bro Gŵyr

Disgrifiadau

Cynhwysion

crwst brau
dau wy mawr wedi’u curo
hanner peint o laeth
llond llwy bwdin o flawd plaen
ychydig o halen
ychydig o nytmeg
dau lond llwy fwrdd o siwgr

Dull

Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth a’i ychwanegu at yr wyau ynghyd â gweddill y llaeth.
Eu blasu â’r siwgr a’r halen.
Gorchuddio ochrau a gwaelod dysgl bwdin ddofn â chrwst brau, arllwys y cymysgedd arno a malu ychydig o nytmeg ar ei wyneb.
Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr nes bod y cymysgedd wedi tewhau.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1216
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment