Skip to main content

Pwdin Modryb Martha

Disgrifiadau

Cynhwysion

pum owns o friwsion bara
un wy wedi’i guro
dwy owns o ymenyn
dwy owns o siwgr
un lemon
llond cwpan o laeth
chwarter pwys o resins
nytmeg

Dull

Berwi’r llaeth a’i arllwys dros y bara a’r siwgr mewn dysgl.
Ychwanegu’r wy, sudd a chroen y lemon, yr ymenyn a’r nytmeg at y cymysgedd a’u curo’n dda am rai munudau.
Iro basn pwdin ag ymenyn, rhoi’r resins ar yr ymenyn, yma a thraw, y tu mewn i’r basn ac arllwys y cymysgedd iddo.
Rhoi’r basn i sefyll mewn sosban ac ychydig o ddŵr ynddi, a’i ferwi am ryw awr a hanner.

Yr oedd hwn yn bwdin cyffredin a fwyteid gan y teuluoedd tlawd gan nad oedd angen prynu llawer o ffrwythau i’w rhoi ynddo.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1260
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment