Skip to main content

Pwdin Mamgu

Disgrifiadau

Cynhwysion

wyth owns o friwsion bara wedi sychu
dwy owns o siwet wedi’i falu’n fân
tri chwarter pwys o fwyar duon
tri chwarter pwys o afalau wedi’u tafellu
tair owns o siwgr
hanner peint o laeth

Dull

Rhoi’r briwsion bara i fwydo yn y llaeth, ychwanegu’r siwet a’u cymysgu’n dda.
Iro dysgl bwdin a rhoi haen o’r cymysgedd ar ei gwaelod.
Rhoi haen o fwyar duon ac afalau ar y cymysgedd hwn a thaenu ychydig o siwgr drostynt.
Llenwi’r ddysgl â haen o’r cymysgedd briwsion bara ar yn ail â’r ffrwythau gan roi haen drwchus o’r cymysgedd ar wyneb y ddysgl.
Ei grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr nes bod wyneb y pwdin yn felyngoch.

Bro Gŵyr.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1385
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment