Saws Gwyn (pwdin)
Saws Gwyn (pwdin)
Disgrifiadau
Cynhwysion
hanner peint o laeth
tua llond cwpan o ddŵr oer
tua dau llond llwy bwdin o flawd plaen (neu cornflour)
ychydig o siwgr
ychydig o halen
diferyn o rum (yn ôl y dewis)
Dull
Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth mewn dysgl.
Cynhesu gweddill y llaeth a’r dŵr mewn sosban ac arllwys y cymysgedd blawd iddo.
Blasu’r saws ag ychydig o siwgr, halen a rum, ei droi’n gyson â llwy bren a’i godi i’r berw.
Ei arllwys ar bwdin Nadolig.
Dowlais, Morgannwg.
‘Menyn melys’ yw’r enw a arferir ar y saws hwn mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru, e.e. Uwch-mynydd, Llŷn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment