Skip to main content

Pwdin Lwmp 2.

Disgrifiadau

Cynhwysion

llond powlen o flawd plaen
llond powlen o siwet
llond powlen o gyrens
llond powlen o siwgr
llond powlen o gandi pîl
ychydig o halen
llond llwy fwrdd o driog
wy neu ddau
llaeth enwyn cynnes
llond llwy de o soda pobi

Dull

Torri’r siwet yn ddarnau mân a’i weithio drwy’r blawd.
Ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl.
Curo’r wyau a’u tywallt i bant yng nghanol y defnyddiau sych.
Toddi’r soda pobi a’r triog yn y llaeth enwyn cynnes a’u hychwanegu’n raddol at y defnyddiau eraill nes cael cymysgedd o’r ansawdd priodol. (Ni ddylai fod yn rhy wlyb nac yn rhy sych.)
Rhoi’r cymysgedd mewn basnys pridd a’u berwi yn y dull arferol am ryw bedair neu bum awr.

Mynytho, Caernarfon.

Yr hen drefn oedd berwi’r cymysgedd hwn yn un lwmp mawr mewn cwd lliain – yr arfer a roddodd iddo’r enwau ‘pwdin lwmp’, ‘pwdin clwt’ neu ‘pwdin cwd’. Byddid yn gwlychu’r lliain mewn dŵr oer ymlaen llaw i rwystro’r pwdin rhag glynu wrtho, rhwymo gwddf y cwd â llinyn, a’i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan.

Arferid gwneud y pwdin hwn ar gyfer cinio diwrnod dyrnu ar y ffermydd yn ogystal ag ar gyfer dydd Nadolig. Cai’r gweithwyr dafell ohono gyda phwdin reis cynnes ar ôl cinio o gig rhost, tatws a llysiau eraill. Gwneid ‘menyn melys’ i’w dywallt arno ar ddydd Nadolig.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1473
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment