Pwdin Nadolig
Disgrifiadau
Cynhwysion
hanner pwys o flawd plaen
hanner pwys o friwsion bara
hanner pwys o siwgr coch
chwech owns o siwet
pwys o gyrens
pwys o syltanas
pwys o resins
pedwar i chwech o wyau
ychydig o laeth neu gwrw
croen lemon wedi’i falu
afal mawr wedi’i dorri’n fân
Dull
Chwalu’r siwet i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl drwy’i gilydd.
Curo’r wyau a’u harllwys i ganol y defnyddiau sych gan ychwanegu llaeth neu gwrw, yn raddol, nes cael y cymysgedd i’r ansawdd priodol.
Iro basnys pridd a rhoi’r cymysgedd ynddynt.
Rhoi darn o bapur ymenyn wedi’i iro ar wyneb y cymysgedd a chlymu lliain yn dynn ar wyneb pob basn.
Berwi’r pwdin am ryw saith awr gan gadw lefel y dŵr yn y sosban yn is nag ymyl y basnys.
Ail-ferwi’r pwdin am ryw ddwy awr ar y diwrnod y bwriedir ei fwyta.
Ei dorri’n dafelli ac arllwys saws gwyn arno, yn ôl y dewis.
Byddai pob aelod o’r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu’r pwdin ac yn cael gwneud dymuniad ‘cudd’ ar yr un pryd.
Yr oedd hi’n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin – yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog – a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.
Dowlais, Morgannwg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment