Llymrïaid
Llymrïaid
Disgrifiadau
Cynhwysion
- tua llond mesur chwart o lymrïaid
- saim cig moch
Dull
- Golchi’r llymrïaid yn dda, torri’u pennau i ffwrdd, gwasgu’r perfedd allan a’u ffrio mewn saim cig moch.
- Gellir ffrio nionyn gyda hwy, os dymunir.
Byddid yn eu bwyta i ginio neu swper, fel rheol.
Nefyn, Llŷn.
Nid peth anghyffredin oedd gweld gwŷr, gwragedd a phlant yn hel llymrïaid ar y traethau ar noson olai leuad yn ystod misoedd yr haf gynt. Byddid yn ‘llymreita’ liw nos ar ôl y llanw, a defnyddid rhaw neu gryman i durio am y pysgod bach hyn a ymguddiai yn y tywod. Fel rheol, byddai un person yn turio amdanynt ac un arall yn eu codi i fwced neu biser.
Pen-bryn, Aberteifi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment