Skip to main content

Bara Cyrens (Rhydlewis, Aberteifi)

Disgrifiadau

Cynhwysion

saith bwys o flawd gwenith
owns a hanner o furum
ychydig o halen
pwys o gyrens
dŵr a llaeth (glasdwr) cynnes

Dull

Cymysgu’r burum ag ychydig o ddŵr cynnes.
Gweithio’r cyrens drwy’r blawd, gwneud pant yn y canol ac arllwys y burum iddo.
Gadael i’r burum ‘weithio’ ryw gymaint yn y blawd cyn gwlychu’r toes â glasdwr cynnes a’r halen wedi’i doddi ynddo.
Tylino’r toes yn dda, a’i adael i godi mewn lle cynnes am ryw awr a hanner.
Llunio’r torthau a’u crasu yn y dull arferol mewn ffwrn boeth.

Gwneid y bara hwn ar achlysuron arbennig yn unig, e.e., i ddathlu gorffen y cynhaeaf, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Rhydlewis, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2016
Gwelediadau:
862
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment