Skip to main content

Teisen Hufen

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • chwarter pwys o flawd
  • owns a hanner o siwgr gwyn
  • un wy
  • hufen ffres

Dull

  • Cymysgu’r siwgr a’r blawd mewn dysgl, torri’r wy i ganol y defnyddiau hyn a’i guro â fforc.
  • Ychwanegu hufen ffres at y cymysgedd nes ei gael i’r un ansawdd â chytew crempog.
  • Iro’r maen ag ymenyn a rhoi’r cymysgedd arno fesul llond llwy fwrdd.
  • Crasu’r teisennau ar y ddwy ochr nes eu bod o liw coch, ysgafn.

Dim ond ar achlysuron arbenning y gwnâi gwragedd ffermydd gogledd Morgannwg y deisen hon, ac fe’i cyfrifid yn ‘foethyn’ ganddynt.

Rhigos, Morgannwg.

Ceir tystiolaeth mewn ardaloedd ym Mro Morgannwg am grasu’r cytew hwn ar waelod y ffwrn dun (Dutch oven) o flaen y tân. (Gellid rhoi cynnig ar ei grasu heddiw mewn tun o dan y gridyll gan ofalu ei fod yn ddigon isel o dan y gwres.)

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
981
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment