Pice’r Pregethwr
Pice’r Pregethwr
Disgrifiadau
Cynhwysion
- pedair owns o flawd codi
- tair owns o ymenyn
- dau wy
- hanner peint o laeth enwyn neu lefrith
Dull
- Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, curo’r wyau a’u tywallt yn raddol ynghyd â’r llaeth enwyn i mewn i’r defnyddiau sych.
- Curo’r cyfan yn drwyadl nes cael cytew da, a’i adael i sefyll dros nos.
- Tywallt y cytew, fesul llwyaid, ar radell gynnes, a chrasu’r pice ar y ddwy ochr yn yr un dull â chrempog.
- Eu bwyta’n boeth a thrwch o ymenyn arnynt.
Caergybi, Môn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment