Skip to main content

Bara Tato

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • pwys o datws
  • pedair owns o flawd
  • dwy owns o siwgr
  • owns o ymenyn
  • dwy owns o gyrens
  • ychydig o laeth

Dull

  • Berwi’r tatws a’u ‘pwnno’n dda. (Gellir defnyddio’r tatws sydd yn weddill ar ôl cinio, os dymunir.)
  • Toddi’r ymenyn i mewn i’r tatws ac yna ychwanegu’r defnyddiau sych atynt, gan gymysgu’r cyfan yn dda.
  • Eu gwlychu ag ychydig o laeth yn ôl yr angen, nes cael toes meddal.
  • Rhoi’r toes ar fwrdd pre nag ychydig o flawd arno, a’i yrru’n dorth gron, heb fod yn rhy drwchus.
  • Crasu’r dorth ar blanc gweddol boeth nes cael lliw melyngoch ar y ddwy ochr.
  • Taenu ymenyn arni i’w bwyta.

Dinas Cross, Penfro.

Yr oedd gwneud bara tato yn ddull cyffredin o ddefnyddio’r tatws a fyddai’n weddill ar ôl cinio mewn llawer ardal yn sir Benfro a sir Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
984
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment