Cacen Gaws
Disgrifiadau
Cynhwysion
peint a hanner o laeth
llond llwy bwdin o gwyrdeb
dau lond llwy fwrdd o siwgr
un wy
tair owns o gyrens
llond llwy de o sbeis
crwst brau
Dull
Cynhesu’r llaeth, rhoi’r cwyrdeb ynddo a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl.
Ei adael i oeri a cheulo.
Yna ei roi mewn darn o fwslin a gwasgu’r maidd yn llwyr ohono.
Curo’r wy a’i ychwanegu at y ‘colfran’ ynghyd â’r siwgr, y sbeis a’r cyrens.
Gyrru’r crwst yn y dull arferol a’i dorri’n ddarnau crwn (tua maint plat bach neu soser efallai).
Rhoi’r cymysgedd hwn ar un hanner o’r darn crwst, plygu’r hanner arall drosto, a selio ymylon y ddau hanner ar ei gilydd.
Crasu’r cacennau ar faen gweddol boeth.
Byddai gwragedd ffermydd Bro Gŵyr yn gwneud y cacennau hyn pan fyddai cyflenwad da o laeth wrth law ganddynt.
Bro Gŵyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment