Teisen Afal
Teisen Afal
Disgrifiadau
Cynhwysion
hanner pwys o flawd codi
chwarter pwys o ymenyn
chwarter pwys o lard
pum owns o siwgr
un wy wedi’i guro ac ychydig o laeth
chwarter llond llwy de o halen
hanner pwys o afalau coginio
Dull
Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r siwgr a’r halen atynt.
Glanhau’r afalau, eu torri’n fân, a’u gweithio drwy’r defnyddiau sych eraill.
Gwlychu’r cymysgedd hwn yn raddol â’r wy a’r llaeth nes cael toes gweddol sych.
Gyrru’r toes yn denau a’i dorri’n deisennau bach, sgwâr.
Eu crasu ar y ddwy ochr ar faen gweddol boeth, a thaenu siwgr arnynt.
Bro Gŵyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment