Skip to main content

Sgons Enwyn a Teisen Dim

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
tair neu bedair owns o ymenyn
tair owns o siwgr
ychydig o soda pobi
llaeth enwyn

Dull

Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, a’u gwlychu’n raddol â’r llaeth enwyn nes cael toes meddal.
Gyrru’r toes i ryw chwarter modfedd o drwch a’i dorri’n deisennau crwn.
Eu crasu ar lechfaen gweddol boeth a’u bwyta’n gynnes.

Heol Senni, Brycheiniog.

Teisen Ddim

Cynhwysion

  • pwys o flawd plaen
  • chwarter pwys o lard
  • ychydig o halen
  • llaeth enwyn

Dull

  • Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen, a’u gwlychu â’r llaeth enwyn nes cael toes meddal.
  • Gyrru’r toes i ryw chwarter modfedd o drwch i wneud teisen fawr, gron a’i chrasu ar lechfaen gweddol boeth. (Gellir torri’r toes yn deisennau bach, yn ôl y dewis.)
  • Taenu ymenyn ar y deisen a’i bwyta’n gynnes.

Llandeilo’r-fân a Heol Senni, Brycheiniog.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
873
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment