Skip to main content

Teisen Dinca

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd plaen
wyth owns o ymenyn
chwech owns o siwgr coch, bras
wyth owns o afalau wedi’u torri’n ‘sglodion mân (shredded apple)
ychydig o halen
llaeth

Dull

Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd a chymysgu’r afalau, y siwgr a’r halen drwyddynt.
Eu gwlychu ag ychydig o laeth a’u cymysgu’n drwyadl i wneud toes gweddol sych.
Gyrru’r toes â rholbren a’i lunio’n dorth gron.
Ei chrasu ar y ddwy ochr ar faen gweddol boeth.
Yna ysgwyd siwgr mân ar ei hwyneb a’i thorri’n ddarnau bach hwylus i’w bwyta.

Gwaelod-y-garth, Morgannwg.

Dull arall o baratoi’r deisen hon oedd ei chymysgu’n wlypach na’r un a ddisgrifir uchod gan roi wy ynddi, a’i chrasu mewn ffwrn dun (Dutch oven) o flan y tân. Yr oedd hon yn debyg, o ran ansawdd, i’r deisen lap a gresid yn yr un modd.
Pen-tyrch, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
1835
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment