Skip to main content

Bara Bwff

Disgrifiadau

Cynhwysion

wyth owns o flawd plaen
tair owns o flawd ceirch neu flawd gwenith
tri chwarter owns o furum
llond llwy de o siwgr
llond llwy de o halen
dwy owns o ymenyn
chwarter peint o lefrith
chwarter peint o ddŵr cynnes
dau wy wedi’u curo

Dull

Rhoi’r blodiau a’r halen mewn jwg fawr, gynnes.
Cynhesu’r ymenyn a’r llefrith mewn sosban wrth ochr y tân.
Cymysgu’r burum a’r siwgr, eu toddi yn y dŵr cynnes a’u tywallt ar ben yr ymenyn a’r llefrith.
Ychwanegu’r wyau atynt.
Gwlychu’r blodiau’n raddol â’r cymysgedd hwn a’u curo’n dda.
Rhoi’r cytew i godi am ychydig o amser mewn lle cynnes.
Tywallt y cytew, fesul tipyn, ar radell gynnes, a’i grasu yn yr un dull â chrempog.

Gwneid y bara bwff hwn ar y ffermydd yn sir Fôn ar ddydd Mawrth Ynyd. Hwn fyddai’r gweision a’r morynion yn ei gael i de prynhawn pan fyddai’r meistr a’i deulu’n bwyta crempog.
Môn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
947
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment