Slapan Dafydd
Disgrifiadau
Cynhwysion
deg owns o flawd plaen
dwy owns o ymenyn
hanner peint o laeth enwyn cynnes
dau wy
tair owns o siwgr
tair owns o syltanas
llond llwy fwrdd o finegr
llond llwy de o soda pobi
hanner llond llwy de o halen
Dull
Toddi’r ymenyn yn y llaeth enwyn.
Rhoi’r blawd, yr halen a’r syltanas mewn dysgl, gwneud lle yn eu canol i dderbyn y llaeth enwyn cynnes a’r ymenyn, a’u cymysgu’n dda.
Gadael i’r cymysgedd hwn sefyll am rai oriau, os yw’n bosibl.
Pan fyddir ar fin crasu’r slapan, curo’r wyau’n dda, ychwanegu’r siwgr, y soda a’r finegr atynt, a’u tywallt ar ben y cymysgedd cyntaf, gan droi’r cyfan yn drwyadl.
Iro’r radell a thywallt y cymysgedd arni i wneud un slapan fawr.
Ei chrasu yn yr un dull â chrempog, ei hollti tra’i bod hi’n gynnes a rhoi ymenyn arni.
Llanfachreth, Môn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment