Skip to main content

Slapan Sir Fôn

Disgrifiadau

Cynhwysion

hanner pwys o flawd plaen
dwy owns o siwgr
dwy owns o gyrens
pinsiaid o halen
pinsiaid o soda pobi
chwarter pwys o ymenyn
dau wy
ychydig o laeth enwyn sur

Dull

Rhoi’r defnyddiau sych (ac eithrio’r soda pobi) mewn dysgl a’u cymysgu’n dda.
Toddi’r soda mewn llond llwy de o laeth enwyn sur.
Toddi’r ymenyn drwy ei roi mewn powlen a rhoi honno i sefyll mewn dŵr poeth.
Curo’r wyau’n dda a’u tywallt yn araf i’r ymenyn, ac yna ychwanegu’r soda gwlyb atynt.
Tywallt y trwyth hwn i mewn yn raddol i’r defnyddiau sych a’u curo nes cael cytew gweddol dew.
Iro’r radell neu badell haearn ag ymenyn a thywallt y cytew arni, fesul llond llwy fwrdd.
Crasu a throi’r slapan yn yr un dull â chrempog.
Yna ei hollti gan roi ymenyn ar y ddau hanner a’u bwyta’n gynnes.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
960
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment