Skip to main content

Crempog Furum

Disgrifiadau

Cynhwysion

deuddeg owns o flawd plaen
dau wy
tri llond llwy fwrdd o siwgr
clap da o ymenyn
chwarter owns o furum
pinsiaid o halen
llaeth neu laeth enwyn (digon i wneud cytew tew)

Dull

Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a dŵr cynnes a’i adael i ‘weithio’ mewn lle cynnes.
Cynhesu’r llaeth neu’r llaeth enwyn a rhoi’r ymenyn ynddo i doddi.
Gogryn y blawd a’r halen i ddysgl, ychwanegu’r siwgr atynt a gwneud lle yn eu canol i dderbyn yr wyau, ar ôl eu curo’n dda.
Yna tywallt y llaeth i’r cymysgedd hwn, yn raddol, a’i guro’n dda nes bod y cytew o ansawdd hufen tew.
Yn olaf, ychwanegu’r burum a rhoi’r cytew o’r neilltu mewn lle cynnes nes y bo’r burum wedi ‘gweithio’.
Crasu’r crempog ar radell neu badell ffrio yn y dull arferol.
Yna hollti pob crempog drwy’r canol, taenu ymenyn arni a’i bwyta’n gynnes.

Crempog Surgeirch
Paratoid y math hwn o grempog yn yr un dull â’r grempog forum, ond blawd haidd neu flawd ceirch a roid ynddynt ynghyd ag ychydig o beilliaid.
Gwneid hwy yn rhai mawr, tenau a thaenid ymenyn a thriog arnynt.
Capel Garmon, Dinbych.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
961
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment