Skip to main content

Crempog

Disgrifiadau

Cynhwysion

deg owns o flawd plaen
hanner llond llwy de o halen
dwy owns o ymenyn
tri chwarter peint o laeth enwyn cynnes
dau wy
tair owns o siwgr
llond llwy de o soda pobi
llond llwy fwrdd o finegr

Dull

Toddi’r ymenyn yn y llaeth enwyn cynnes, eu tywallt i’r blawd yn raddol a’u curo’n dda. (Gadael i’r cymysgedd hwn sefyll am rai oriau, os yw’n bosibl.)
Pan fyddir ar fin crasu’r crempog, curo’r wyau, cymysgu’r siwgr, y soda pobi a’r finegr i mewn iddynt, a’u tywallt ar ben y cymysgedd cyntaf.
Curo’r cyfan yn dda nes cael cytew llyfn.
Iro’r radell a’i chynhesu’n gymedrol.
Tywallt y cytew arni fesul llond llwy fwrdd, a chrasu’r crempog ar y ddwy ochr.
Rhoi ymenyn a siwgr arnynt tra fyddont yn boeth a’u bwyta’n gynnes.

(Y mae rhoi llond cwpan o hufen sur yn y cytew yn helpu’r crempog i godi.) Llanfachreth, Môn.

‘Te a chrempog’ oedd y te croeso a roid i bobl ddieithr yn sir Gaernarfon a sir Fôn. Gwneid hwy yno hefyd ar ddydd Mawrth Ynyd. Ar gyfer y diwrnod hwnnw, byddid yn paratoi tri math o grempog – crempog wen (o flawd peilliaid) a chrempog furum ar gyfer y meistr a’r teulu, a chrempog surgeirch ar gyfer y gweision a’r morynion.

Y mae pobl yn cofio am blant yn cerdded o ddrws i ddrws yn Llŷn yn hel crempog ar ddydd Mawrth Ynyd, gan ganu’r rhigwm:

‘Sgwelwch chi’n dda ga’i grempog?
‘Mae ‘ngheg i’n grimpin grempog
‘Mae Mam rhy dlawd i brynu blawd
‘Mae ‘Nhad rhy ddiog i weithio
‘Sgwelwch chi’n dda ga’i grempog?
Uwchmynydd, Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
778
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment