Skip to main content

Teisen ar y Maen 2.

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd
chwe owns o lard
ychydig o halen
dŵr
unrhyw ffrwyth yn ôl y tymor – afalau, riwbob, etc.
siwgr
ymenyn

Dull

Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen a’u cymysgu â dŵr i wneud crwst brau.
Gyrru’r crwst yn ddarnau crwn o’r un maint â phlât cinio.
Glanhau’r ffrwythau, eu torri (yn ôl yr angen) a’u rhoi ar un haen o’r crwst, gorchuddio’r ffrwythau â haen arall, a sleio ymylon y ddwy haen ar ei gilydd.
Crasu’r deisen hon yn araf ar y maen, a’i throi wyneb i waered pan fo’r ochr isaf wedi crasu’n drwyadl.
Crasu’r ail ochr yn yr un modd ac yna codi’r deisen a’i rhoi ar blât mawr neu fwrdd pren.
Tra bod y deisen yn boeth, torri gydag ymyl haen uchaf y crwst, ei godi ymaith, a thoddi dau neu dri llond llwy fwrdd o siwgr i mewn i’r ffrwythau ynghyd ag ychydig o ymenyn.
Yna rhoi’r crwst yn ôl yn ei le.

Cresir y deisen hon ar ffurf turn-over weithiau:

Gyrru’r crwst yn un darn crwn, mawr, rhoi’r ffrwythau ar un hanner iddo a’u gorchuddio â’r hanner arall, gan selio ymylon y ddau hanner ar ei gilydd.

Yr un yw’r deisen ar y maen â’r deisen blât ond bod y naill wedi’i chrasu ar y maen a’r llall wedi’i chrasu ar blât mewn ffwrn.
Mynydd Cynffig, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
777
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment