Skip to main content

Teisen ar y Maen 1.

Disgrifiadau

Dull

Defnyddio’r un cymysgedd ag a baratowyd uchod ar gyfer gwneud teisen lechwan. (Gellir rhoi ychydig llai o saim ac o siwgr ynddi, os dymunir.)
Gyrru’r toes hwn rhwng â rholbren nes ei gael i’r un maint â phlât cinio go fawr.
Rhoi ffrwythau (afalau, mwyar, neu eirin mair, etc.) ar un hanner o’r toes a’u gorchuddio â’r hanner arall, gan selio ymylon y ddau hanner ar ei gilydd.
Crasu’r deisen ar faen gweddol boeth nes cael lliw melyngoch ar y ddwy ochr.
Yna hollti’r deisen drwy’r canol, codi haen uchaf y crwst, rhoi siwgr ar y ffrwyth a rhoi’r crwst yn ôl drachefn.

Yr oedd hwn yn deisen arbennig a wneid ar y ffermydd adeg y cynhaeaf.
Creunant, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
998
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment