Skip to main content

Teisen Lechwan

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys o flawd codi
chwarter pwys o ymenyn
chwarter pwys o lard
llond cwpan o siwgr
llond cwpan o gyrens
dau wy wedi’u curo
ychydig o halen
ychydig o laeth

Dull

Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
Eu gwlychu â’r wyau a’r llaeth nes cael toes meddal.
Gyrru’r toes â rholbren a’i dorri’n deisennau bach, crwn.
Iro’r llechfaen (neu’r radell) a’i chynhesu nes gwelir bod ychydig o flawd, o’i daflu arni, yn cochi’n weddol fuan.
Rhoi nifer o’r teisennau arni (yn ôl maint y llechfaen) a’u crasu ar y ddwy ochr.

Dowlais, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
645
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment