Welsh Cakes
Welsh Cakes
Disgrifiadau
Welsh Cakes
Cynhwysion
pwys o flawd plaen
chwe owns o lard
hanner llond llwy de o halen
llond cwpan te o siwgr
llond cwpan te o gyrens
hanner llond llwy de o soda pobi
hanner peint o laeth enwyn sur
Dull
Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, a’u gwlychu â’r llaeth enwyn (a’r soda pobi wedi’i doddi ynddo) i wneud toes meddal.
Gyrru’r toes â rholbren i ryw chwarter modfedd o drwch a’i dorri’n deisennau crwn.
Eu crasu ar y ddwy ochr ar radell neu badell ffrio, wedi’i hirio a’i chynhesu ymlaen llaw.
Pennant, Maldwyn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment