Skip to main content

Pica Bach

Disgrifiadau

Cynhwysion

wyth owns o flawd codi
pedair owns o ymenyn
pedair owns o siwgr
owns o gyrens
ychydig o halen
hanner llond llwy de o sbeis cymysg
un wy wedi’i guro

Dull

Gogryn y blawd, yr halen a’r sbeis i ddysgl, rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt, ac ychwanegu’r siwgr atynt.
Gwlychu’r defnyddiau hyn â’r wy nes cael toes gweddol sych.
Rhannu’r toes yn ddau ddarn cyfartal a gweithio’r cyrens i mewn i un ohonynt yn unig.
Wedyn, gyrru’r ddau fath o does, ar wahân, i ryw chwarter modfedd o drwch a’u torri’n deisennau bach, crwn.
Cynhesu’r maen a chrasu’r teisennau arno am ryw ddwy funud bob ochr.
Hollti’r teisennau plaen drwy’u canol, os dymunir, taenu jam arnynt a’u bwyta’n gynnes.
Hefyd, gellir llunio un dorth fawr gron o’r toes plaen a’i chrasu, yn yr un modd, ar y maen.
Yna ei hollti drwy’r canol, a thaenu trwch o afalau wedi’u coginio a siwgr brown arni.
Rhoi’r ddau hanner yn ôl ar ei gilydd, taenu ychydig o siwgr ar yr wyneb uchaf, a thorri’r deisen yn ddarnau bach, sgwâr.

Pont-y-clun, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
844
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment