Teisen Dorth (Dowlais, Morgannwg)
Disgrifiadau
Cynhwysion
pwys a hanner o flawd plaen
hanner pwys o ymenyn
chwarter pwys o lard
cwpanaid a hanner o siwgr coch
hanner pwys o resins
hanner pwys o syltanas
hanner pwys o gyrens
ychydig o nytmeg a sinamon
ychydig o groen lemon wedi’i falu
chwech wy
owns a hanner o furum
ychydig o halen
Dull
Rhoi’r burum a llond llwy de o siwgr mewn basn bach, eu cymysgu ag ychydig o ddŵr claear, rhoi soser ar wyneb y basn a gadael i’r burum ‘weithio’ mewn lle cynnes.
Golchi’r ffrwythau mewn dŵr claear, eu rhwbio mewn lliain a’u rhoi i sychu ar hambwrdd wrth ymyl y tân.
Torri’r resins yn chwarteri os mai rhai mawr a ddefnyddir.
Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r ffrwythau a’r defnyddiau sych eraill a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
Gwneud ‘llygad’ yng nghanol y defnyddiau sych ac arllwys y burum iddo.
Curo’r wyau’n dda a’u hychwanegu at y burum i wlychu’r deisen. Dylai ansawdd y cymysgedd hwn fod ychydig yn wlypach nag ansawdd toes bara, a gellir defnyddio ychydig o lasdwr claear i’w gael i’r ystwythder iawn.
Rhoi lliain dros wyneb y badell a gadael i’r cymysgedd godi mewn lle cynnes am ychydig o amser cyn ei rannu i duniau priodol. (Dylid iro a chynhesu’r tuniau ymlaen llaw.)
Gadael i’r cymysgedd godi eto yn y tuniau am awr neu ragor gan ei fod yn drymach na thoes cyffredin.
Crasu’r teisennau mewn ffwrn weddol isel ei gwres am ryw awr (neu ragor, yn ôl eu maint).
Dowlais, Morgannwg.
Gwneid y deisen hon yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair deisen ar y tro ac yn eu cario i’r bacws lleol i’w crasu. ‘Roedd hi’n arfer i’r cymdogion ‘brofi’ teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau’r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai’n siŵr o ennill gŵr yn y Nadolig canlynol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment