Skip to main content

Gwin Dant y Llew (Caerfyrddin)

Disgrifiadau

Cynhwysion

galwyn o flodau dant y llew
un oren
un lemon
tua modfedd o wraidd sinsir
hanner owns o furum wedi’i daenu ar dost
galwyn o ddŵr berw
tri phwys o siwgr

Dull

Golchi’r blodau, arllwys y dŵr berw drostynt a’u gadael i sefyll ynddo am dri diwrnod.
Dylid troi’r dŵr hwn yn aml a gwasgu’r blodau â llwy bren.
Yna hidlo’r trwyth i sosban fawr, naddu croen yr oren a’r lemon yn denau i mewn iddo, a rhoi’r ffrwythau eu hunain, wedi’u tafellu, ynddo; ychwanegu’r siwgr a’r sinsir atynt a berwi’r cyfan am hanner awr.
Gadael i’r cymysgedd oeri cyn rhoi’r burum ar ei wyneb a’i adael i ‘weithio’ am chwe diwrnod.
Hidlo’r gwin a’i arllwys i boteli.
Rhoi corcyn yn llac yng ngheg pob potel a’u tynhau ymhen rhyw fis o amser pan welir bod y gwin wedi talwelu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
763
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment