Skip to main content

Gwin Mwyar Duon

Disgrifiadau

Cynhwysion

pum pwys o fwyar duon
galwyn o ddŵr oer
pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
dwy owns o sinsir
owns o glows

Dull

Rhoi’r mwyar duon mewn padell bridd ac arllwys y dŵr oer drostynt.
Gwasgu’r ffrwyth â llwy bren a throi’r dŵr unwaith y dydd am ddeng niwrnod.
Yna hidlo’r trwyth drwy ogr mân, ychwanegu’r siwgr ato a’i doddi’n llwyr iddo.
Berwi’r clows a’r sinsir mewn ychydig o’r trwyth hwn a’i adael i oeri drachefn cyn ei arllwys yn ôl at y gweddill.
Ei adael i ‘weithio’ am saith niwrnod gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb fel y bo angen.
Yna arllwys y gwin i boteli a gadael y corcyn yn llac yng ngheg pob potel am ryw fis o amser.
Eu tynhau pan welir bod y gwin wedi tawelu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
747
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment