Gwin Riwbob
Disgrifiadau
Cynhwysion
pum pwys o riwbob
galwyn o ddŵr oer
pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
dwy owns o sinsir
owns o glows
Dull
Torri’r riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u hollti, eu rhoi mewn padell bridd ac arllwys y dŵr oer drostynt.
Gwasgu’r ffrwyth â llwy bren a throi’r dŵr unwaith y dydd am ddeng niwrnod.
Yna hidlo’r trwyth drwy ogr mân, ychwanegu’r siwgr a’i doddi’n drwyadl iddo.
Berwi’r sinsir a’r clows mewn ychydig o’r trwyth hwn a’i adael i oeri drachefn cyn ei arllwys yn ôl at y gweddill.
Ei adael i ‘weithio’ am saith niwrnod gan godi’r ‘wyneb’ fel y bo angen.
Yna arllwys y gwin i boteli a gadael y corcyn yn llac yng ngheg pob un ohonynt am ryw fis o amser.
Eu tynhau pan welir bod y gwin wedi tawelu.
Pontyberem, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment