Skip to main content

Medd (Môn)

Disgrifiadau

Cynhwysion

owns o hopys sych
pedwar pwys o fêl (newydd ei dynnu o’r cwch gwenyn)
dau alwyn o ddŵr
owns o furum wedi’i daenu ar dost

Dull

Tywallt y dŵr dros y mêl a’r hopys a’u berwi’n araf am awr.
Yna hidlo’r trwyth i badell a’i adael i glaearu cyn rhoi’r burum ar ei wyneb.
Cymysgu’r trwyth yn dda fore trannoeth a thynnu’r tost allan ohono.
Gorchuddio’r badell â lliain a’i rhoi o’r neilltu am bum niwrnod cyn hidlo’r trwyth drachefn, a’i roi mewn poteli.
Gadael i’r burum orffen ‘gweithio’ cyn rhoi corcyn yn dynn yng ngeg pob potel.
Dylid cadw’r medd am flwyddyn cyn ei yfed.

Llanfachreth, Môn.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
956
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment