Skip to main content

Medd (Bro Gŵyr)

Disgrifiadau

Cynhwysion

diliau mêl
siwgr
sinsir mâl

Dull

Rhoi’r diliau mewn llond padell fawr o ddŵr oer ar ôl tynnu’r mêl ohonynt, a’u gadael i fwydo yno am ddiwrnod neu ddau.
Yna hidlo’r trwyth a’i ferwi am hanner awr cyn toddi’r siwgr iddo (tua phwys i bob galwyn) a’i flasu â sinsir mâl.
Ei arllwys i boteli pridd a’i gadw am rai wythnosau cyn ei yfed.

Arferid gwneud medd yn ystod misoedd yr hydref er mwyn iddo gael amser i ‘aeddfedu’ erbyn tymor y Nadolig.
Bro Gŵyr.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
867
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment