Skip to main content

Diod Sinsir

Disgrifiadau

Cynhwysion

llond dwrn o ddail dant y llew
ychydig o ddail cyrens duon
hanner coesgyn o riwbob
lemon bach
dau chwart o ddŵr oer
gwreiddiau sinsir wedi’u cleisio
owns o furum ar dafell o fara
dau bwys o siwgr gwyn
galwyn o ddŵr berw

Dull

Rhoi’r dail, y riwbob a’r lemon (wedi’i dafellu) ynghyd â’r sinsir yn y dŵr oer a’u berwi am hanner awr.
Hidlo’r trwyth i badell fawr, ychwanegu’r dŵr berw ato a thoddi’r siwgr iddo.
Ar ôl iddo oeri at naws gwaed rhoi’r burum ar ei wyneb a’i adael i ‘weithio’ dros nos.
Ei hidlo drannoeth a’i roi mewn poteli.

Yr oedd hon yn ddiod poblogaidd gan y ffermwyr ar y cae gwair.
Llanarthne, Caerfyrddin.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
871
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment