Gwin Eirin Ysgawen
Disgrifiadau
Cynhwysion
pedwar peint o eirin ysgawen
galwyn o ddŵr oer
tri chwarter pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
dau owns o furum wedi’i daenu ar dost
tair owns o glows mewn cwd mwslin
Dull
Arllwys y dŵr dros yr eirin a’u berwi am hanner awr cyn ychwanegu’r siwgr a’r clows atynt.
Berwi’r cyfan am bymtheng munud eto.
Hidlo’r trwyth hwn i badell bridd a’i adael i glaearu hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ar dost ar ei wyneb.
Tynnu’r tost allan drannoeth a gadael y gwin i ‘weithio’ am bum niwrnod, gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb fel y bo angen.
Yna arllwys y gwin i boteli.
Bydd y gwin yn dal i ‘weithio’ a gorlifo dros y poteli, a gwelir bod angen eu hail-lenwi bob hyn a hyn. (Defnyddir cynnwys un botel i lenwi’r lleill.)
Rhoi’r corcyn yn llac yng ngheg pob potel, a’u tynhau ymhen rhyw fis o amser pan welir bod y gwin wedi tawelu.
Pontyberem, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment