Siryp Ysgawen
Siryp Ysgawen
Disgrifiadau
Cynhwysion
blodau ysgaw
dŵr
siwgr
sinsir
Dull
Llanw sosban fawr â blodau ysgaw, eu gorchuddio â dŵr a’u berwi’n araf am rai oriau.
Hidlo’r trwyth a’i ferwi eto am hanner awr.
Rhoi ychydig o sinsir ynddo a phwys o siwgr ar gyfer pob peint o’r trwyth.
Ei ferwi eto nes gwelir ei fod yn tewhau.
Ei dywallt i boteli i’w gadw.
Byddid yn rhoi ychydig ohono mewn dŵr poeth a’i yfed yn y gaeaf i wella annwyd.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment