Shampein Eirin Ysgaw
Disgrifiadau
Shampein Eirin Ysgaw
Cynhwysion
deg pwys o eirin ysgaw
wyth bwys o rawnwin gwyrdd
chwe phwys o eirin duon
pedwar pwys ar ddeg o siwgr
tair owns o furum wedi’i daenu ar dafell drwchus o dost
pedwar galwyn o ddŵr berw
Dull
Rhoi’r eirin ysgaw, y grawnwin gwyrdd, wedi’u gwasgu, a’r eirin duon mewn padell bridd a’u gorchuddio â’r dŵr berw.
Cymysgu’r ffrwythau drwy’r dŵr ddwy waith bob dydd am bymtheng niwrnod.
Yna hidlo’r cyfan drwy ogr mân a mwslin ynddo i’w lanhau mor llwyr ag sy’n bosibl.
Codi’r trwyth hwn i’r berw a’i dynnu oddi ar y gwres cyn toddi’r siwgr iddo. (Ni ddylid ei ferwi ar ôl rhoi’r siwgr ynddo.)
Arllwys y trwyth yn ôl i’r badell bridd a’i adael i oeri hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ar dost ar ei wyneb.
Tynnu’r tost allan ohono drannoeth a gadael i’r gwin ‘weithio’ am saith niwrnod, gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb bob dydd.
Yna arllwys y gwin i boteli.
Bydd y gwin yn dal i ‘weithio’ a gor-lifo dros y poteli a gwelir bod angen eu hail-lenwi bob hyn a hyn. (Defnyddier cynnwys un botel i lenwi’r lleill.)
Gwneud corcyn o bapur ymenyn i’w roi yng ngheg pob potel am y mis neu’r chwech wythnos cyntaf.
Eu corcio’n dynn ar ôl hynny.
Pontyberem, Caerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment