Gwin Dant y Llew (Morgannwg)
Gwin Dant y Llew (Morgannwg)
Disgrifiadau
Cynhwysion
dau chwart o flodau dant y llew
pedwar chwart o ddŵr
tri oren wedi’u tafellu
tri lemon wedi’u tafellu
dau bwys o siwgr lwmp
hanner owns o furum ar ddarn o dost
Dull
Berwi’r blodau, y tri oren a’r lemon yn y dŵr am ddeugain munud.
Yna hidlo’r cyfan drwy ddarn o fwslin.
Berwi’r trwyth eto am ryw hanner awr cyn rhoi’r siwgr ynddo.
Arllwys y trwyth i badell a phan fydd wedi claearu, rhoi’r burum ar ei wyneb a’i adael i ‘weithio’ am dri diwrnod.
Yna rhoi’r gwin mewn poteli a’i gadw am ddau fis cyn ei yfed.
Nelson, Morgannwg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment