Skip to main content

Diod Danadl Poethion

Disgrifiadau

Cynhwysion

hanner pwys o ddanadl poethion ifainc
pedair owns o hopys
hanner pwys o siwgr
lemon wedi’i dafellu
owns o sunsur
owns o bowdr tartar
ychydig o furum

Dull

Rhoi’r danadl poethion a’r hopys mewn dŵr a’u berwi’n dda.
Hidlo’r trwyth a’i adael i oeri i wres gwaed cyn rhoi’r defnyddiau eraill ynddo.
Yna ychwanegu ychydig o furum at a’i adael i ‘weithio’ dros nos.
Hidlo’r ddiod i boteli i’w chadw.

Ystyrrid bod y ddiod hon yn feddyginiaeth gryfhaol.
Banwy Uchaf, Trefaldwyn.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
S. Minwel Tibbott
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/8/2016
Gwelediadau:
1265
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment