Diod Cynhaeaf Gwair
Diod Cynhaeaf Gwair
Disgrifiadau
Cynhwysion
galwyn o ddŵr
pwys o resins
dau bwys o siwgr
sudd tri lemon
Dull
Berwi’r dŵr i’w buro a’i adael i glaearu.
Rhoi’r resins, y siwgr a’r sudd lemon ynddo a’i droi ryw unwaith neu ddwy bob dydd am bedwar diwrnod.
Hidlo’r trwyth drwy fwslin, ei arllwys i boteli a rhoi corcyn yn dynn yng ngheg pob un ohonynt.
Gellir teneuo’r ddiod hon ag ychydig o ddŵr cynnes cyn ei yfed, os dymunir.
Bro Gŵyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment