Skip to main content

Pwdin Gwaed

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • gwaed mochyn ar ddiwrnod ei ladd
  • peint o ddŵr
  • ychydig o halen
  • winwns
  • llysiau cymysg i’w flasu
  • ychydig o flawd ceirch
  • perfedd mân y mochyn
  • ychydig o’r braster oddi ar berfedd mân y mochyn

Dull

  • Arllwys y gwaed i ddysgl fawr pan fo’n gynnes a’i droi’n gyson nes ei fod wedi oeri. (Y mae’r troi yn ei rwystro rhag mynd yn lympiau.)
  • Yna cymysgu peint o ddŵr ac ychydig o halen i mewn iddo a’i adael dros nos.
  • Golchi’r perfedd yn drwyadl (y tu mewn a’r tu allan) a’i roi i sefyll mewn dŵr a halen dros nos.
  • Gorchuddio’r winwns (wedi’u malu) a’r darnau o fraster â blawd ceirch, eu blasu â’r llysiau a’u cymysgu i mewn i’r gwaed oer.
  • Rhoi’r cymysgedd hwn i mewn yn y perfedd mân, clymu’r ddeupen â llinyn gan adael rhyw gymaint o le i’r pwdin chwyddo wrth ei fod yn berwi.
  • Berwi’r pwdin mewn sosban fawr am ryw hanner awr ac yna ei hongian i sychu mewn lle cyfleus.
  • Ffrio tafell neu ddwy o’r pwdin gyda chig moch yn ôl yr angen.

Nantgarw, Morgannwg.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
1182
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment