Gwisg Thomas Gruffydd, telynor Arglwyddes Llanofer
Gwisg Thomas Gruffydd, telynor Arglwyddes Llanofer
Disgrifiadau
Gwisgwyd y wisg drawiadol hon gan Thomas Gruffydd, telynor yr Arglwyddes a'i theulu. Roedd yn canu'r delyn i ddiddanu gwesteion Plas Llanofer. Roedd yr Arglwyddes yn frwd o blaid y diwydiant gwlân yng Nghymru. Mynnai bod holl weithwyr a thenantiaid ei hystâd yn gwisgo brethyn cartref Cymru. Aeth gam ymhellach hefyd, gan gynllunio patrwm arbennig ar gyfer gwisgoedd ei gweision, sef Brethyn Gwenffrwd. Dyma ddefnydd siaced Thomas Gruffydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment