Llun yn dangos gwialen a llinell yn cael ei defnyddio o gwrwgl, Ross on Wye
Llun yn dangos gwialen a llinell yn cael ei defnyddio o gwrwgl, Ross on Wye
Disgrifiadau
Llun yn dangos gwialen a llinell yn cael ei defnyddio o gwrwgl, Ross on Wye.
Ar un adeg, roedd cyryglau’n gyffredin ar afonydd Mynwy, Wysg a Gwy. Gallai pysgotwr lleol ennill bywoliaeth trwy ddefnyddio’r cychod cyntefig hyn.
Genweirio oedd y dull mwyaf cyffredin o ddal pysgod o gwrwgl. Ond, ym 1782, cafodd eog dros 68 pwys ei ddal mewn rhwyd ar afon Wysg!
O fis Gorffennaf 1866 ymlaen, roedd yn erbyn y gyfraith i bysgota o gwrwgl heb drwydded, ac roedd pob pysgotwr yn gorfod talu £2 o ffi bob blwyddyn.
Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y traddodiad o bysgota â chwrwgl wedi dod i ben.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment