Telyn deires a ddyfarnwyd yn yr Eisteddfod ym 1848
Telyn deires a ddyfarnwyd yn yr Eisteddfod ym 1848
Disgrifiadau
Roedd Arglwyddes Llanofer yn ystyried y delyn deires fel offeryn cenedlaethol Cymru. Mae'n bosibl y byddai’r delyn deires wedi diflannu o Gymru yn llwyr oni bai am Arglwyddes Llanofer.
Roedd hi’n gadarn ei chred mai'r delyn deires oedd offeryn cenedlaethol y Cymry. Treuliodd ei bywyd yn ei hyrwyddo.
 hithau’n aelod blaenllaw o Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni, roedd yr Arglwyddes yn sicrhau y byddai cystadlaethau yn eu heisteddfodau ar gyfer chwaraewyr y delyn deires. Ond yn hytrach na thlws neu arian, telyn newydd oedd gwobr y buddugwyr.
Enillodd Edward Hughes y delyn hon yn Eisteddfod y Fenni, 1848.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment