Bwyell law bout coupé garreg o Ogof Coygan
Disgrifiadau
Canol-balaeolithig: tua 66,000-38,000 CP Bwyell law driongl o’r enw bout coupé yw hon, math a ddefnyddiwyd gan y bobl Neanderthalaidd. Cafodd Ogof Coygan (yn Sir Gâr) ei chloddio ar wahanol adegau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ond mae wedi’i dinistrio gan chwarela bellach. Cafodd yr ogof ei defnyddio gan bobl Neanderthalaidd rhwng 66,000 a 38,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd safle’r ogof, a edrychai dros wastadeddau sydd bellach yn rhan o Fôr Hafren, yn ddelfrydol fel cartref dros dro ac yn wylfan ragorol i hela ceirw, ych gwyllt a cheffylau. Ychydig iawn o offer carreg a ddarganfuwyd yno; dim ond tair bwyell law a thri fflaw, sy’n awgrymu mai dim ond yn y tymor byr y defnyddiwyd y safle. Cafodd dwy o’r bwyeill llaw eu darganfod gyda’i gilydd, yn agos at y wal gallent fod wedi’u storio i’w defnyddio rhywbryd eto. Mae’n dra thebyg bod grwpiau o Neanderthaliaid yn crwydro ar hyd a lled y De yn ystod y cyfnod hwn, ond prin yw’r dystiolaeth o’u presenoldeb. Rhif derbyn: 73.18H/2 Cyfeirnod: DH008032
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment