Skip to main content

Corgwpan o Lanarth

Disgrifiadau

Corgwpan o’r Oes Efydd Gynnar yw’r potyn bach hwn. Fe’u gelwir hefyd yn llestri ategol, cwpanau arogldarth, llestri bach iawn, neu’n syml, cwpanau. Fe’u darganfyddir fel arfer ochr yn ochr â chorfflosgiadau wedi’u claddu mewn crug neu garnedd. Cafodd hwn ei ddarganfod gydag olion dynol yn ystod gwaith cloddio amatur ar garnedd ger Llanarth, Ceredigion, rhywbryd cyn 1939. Dyma un o’r cwpanau lleiaf sy’n rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Dim ond 63mm yw ei faint ar y pwynt lletaf. Cwpan deugonig ydyw, wedi’i addurno â dwy res o linellau onglog endoredig o amgylch y gwddf, a rhes o smotiau wedi’u gwasgu o gylch yr ysgwydd a’r bôn a thrionglau bach endorig rhyngddynt. Mae befel mewnol y rhimyn wedi’i addurno â rhesi tebyg o smotiau wedi’u gwasgu. Fel arfer, mae gan y cwpanau bach hyn bâr o dyllau ar yr ysgwydd y credir iddynt gael eu defnyddio i grogi neu glymu’r potiau yn ystod defodau angladdol neu amlosgi. Fodd bynnag, mae’r rhes barhaus o smotiau o amgylch ysgwydd esiampl Llanarth yn awgrymu nad oedd y gwpan hon wedi’i thrydyllu ac y gall fod wedi’i defnyddio mewn ffordd ychydig yn wahanol. Rhif derbyn: 39.563/4 Cyfeirnod: DH002483

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Hugh Gatt
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2016
Eitem wedi’i llwytho:
10/5/2016
Gwelediadau:
1097
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment