Skip to main content

Dant tyllog o Ogof Kendrick

Disgrifiadau

Uwch-balaeolithig terfynol: tua 10,580 CP Un o naw glain dant anifail wedi’i addurno a’i drydyllu a ddarganfuwyd yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ogof Kendrick, Penygogarth, Llandudno, Conwy. Mae chwech o’r dannedd, gan gynnwys yr esiampl hon, yn deillio o ych mawr, auroch neu wartheg gwyllt mwy na thebyg, dau ddant o hydd ac un o cervid (carw). Yn ôl pob tebyg, cafodd gên uchaf ceffyl wedi’i haddurno â chynllun siefron, sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig, ei darganfod yn yr un ogof, ynghyd â phedwar darn o asgwrn sydd bellach yn Amgueddfa Llandudno. Blaenddant yw pob un, wedi’i addurno â chyfres o endoriadau ar y gwreiddiau. Mae gan bob un naill ai olion trydylliad, neu drydylliad cyflawn, yn agos i fôn y gwreiddyn. Mae hyn yn awgrymu iddynt gael eu cysylltu â’i gilydd a’u defnyddio fel gleiniau. Mae gan ambell drydylliad rywfaint o olion dyddodyn coch. Cafodd ocr coch ei ddefnyddio bryd hynny, efallai fel addurn symbolaidd. Mae’r dant hwn wedi’i ddyddio â radiocarbon. Mae’r canlyniad yn fwy diweddar na’r disgwyl, yn perthyn i’r is-gyfnod Rhewlifol Diweddar. Go brin fod pobl yn byw a bod yng Nghymru bryd hynny, o gofio’r amodau eithafol a’r dirwedd twndra agored. Er hynny, mae’r dant hwn yn deillio o’r cyfnod oer eithriadol hwn yn ôl pob tebyg. Rhif derbyn: 80.92H/4 Cyfeirnod: DH005176

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Hugh Gatt
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
6/5/2016
Gwelediadau:
1316
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment