Adran o Ffwrnais Chwyth Rhif 2, gweithdy Caerdydd. 19 Chwefror, 1934
Disgrifiadau
Allwch chi ein helpu i lenwi'r bylchau? Adnabod y lleoliad, peiriant neu unigolyn? Oes gennych unrhyw atgofion neu brofiadau o waith dur yng Nghymru allwch eu rhannu?
Cafodd dros fil o negyddion gwydr eu hachub o gael eu colli gan aelodau o'r Gymdeithas Hanes Port Talbot a drwy weithio ar y cyd gyda Rhaglen Casgliad y Werin Cymru a gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru maent i'w gyd wedi ei digido. Nawr rydym angen help i roi cig ar yr asgwrn!
Os gallwch chi ein helpu drwy adnabod unrhyw leoliad, unigolyn neu broses cynhyrchu dur sydd i'w weld yn y lluniau beth am ei rhannu gyda ni drwy adael sylw?
GWELEDIGAETH O DDUR
Prosiect newydd cyffrous sy'n anelu at ddod a bywyd newydd i dros 1,000 o ffotograffau o hanes nodedig diwydiant dur Port Talbot.
Mae'r ffotograffau yn darlunio gweithwyr dur, lleoedd a phrosesau o'r 1930au i'r 1950au - cyfnod hanfodol wrth i weithfeydd y dref cael ei thrawsnewid gyda ffactri newydd taflen dur.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Rydym angen eich help i ddyddio'r ffotograffau ac i adnabod y bobl a'r lleoedd sydd yn cael eu cynrychioli ynddynt. Os oes gennych wybodaeth am ddiwydiant dur Port Talbot, yn y gorffennol a'r presennol, byddem wrth ein bodd clywed amdano.
Beth am ddod draw i un o'n digwyddiadau lle gallwch weld rhai o'r ffotograffau hyn a dweud wrthym beth ydych yn ei feddwl ohonynt?
Dydd Sadwrn 7 Mai, 2016
10am - 2pm, Canolfan Siopa Aberfan
Dydd Iau 12 Mai, 2016
6.30pm - 8.30pm, Blanco's Hotel, Port Talbot
Gall eich cyfraniad helpu ddehongli cofnod gweledol pwysig o ddiwydiant dur Port Talbot ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment